Lleihau gwastraff bwyd yn fy oergell gymunedol leol

Margo
De Ddwyrain Lloegr
Rwyf wedi bod yn helpu yn y prosiect Oergell Gymunedol Canolbarth Surrey ers ychydig o dan dair blynedd. Crëwyd y prosiect yn 2017 i helpu cymunedau i ddefnyddio bwyd a fyddai wedi mynd yn wastraff. Pan ymunais, y gwaith cyntaf oedd casglu bwyd dros ben o'r archfarchnadoedd lleol, ond yr rwyf yn awr yn rheolwr mewn prosiect Oergelloedd Cymunedol Canolbarth Surrey sydd newydd agor ar fy ystâd.

Symudon ni i ardal newydd, roeddwn newydd roi genedigaeth i'm trydydd plentyn a phenderfynu fy mod am gwrdd â phobl, helpu fy nghymuned leol a gwneud rhywbeth drosof fy hun. Pan ofynnodd fy ffrind i mi gasglu bwyd iddi o'r oergell gymunedol, deuthum yn chwilfrydig ac roeddwn am gael gwybod mwy am y prosiect.
Ychydig o ymweliadau yn ddiweddarach ac ar ôl sgwrs gyda'r Prif Swyddog Gweithredol, dechreuais gymryd rhan. Rwy'n treulio tua 10 awr yr wythnos yn helpu. Rydych chi'n ei wneud oherwydd eich bod yn ei fwynhau, mae'n bleser mawr. Yn ystod ein gwaith yn y clo, mae ein rôl wedi bod yn hollbwysig, gan ddarparu parseli bwyd i aelodau bregus y gymuned. Rwy'n falch pan fyddwn yn derbyn llythyrau diolch, a lluniau o'r prydau bwyd y mae pobl wedi'u gwneud. Byddai'r bwyd wedi mynd i’r bin oni bai amdanom ni.
I unrhyw un sydd am helpu, rwy'n dweud dylech ei wneud, cymryd rhan, mae cymaint o bobl wych sydd eisiau newid.... ond mae angen pobl arnynt. Mae'n werth chweil.