Neidio i'r prif gynnwys
Yr holl straeon

Penderfynais helpu gyda'n carnifal gan fy mod am helpu i wneud gwahaniaeth

Donna

Hayle, Lloegr

Rwyf wedi bod yn helpu i drefnu Carnifal Hayle ers sawl blwyddyn bellach. Rydym yn cynnal y carnifal ddwywaith y flwyddyn, yn yr haf ac yn y gaeaf, ac mae'r gymuned leol yn cymryd rhan mewn parêd llusernau hudolus.

Roeddwn yn gwylio'r carnifal un haf gyda fy mhlant a ffrind a phenderfynais ymuno â'r pwyllgor a helpu. Dwi'n swil ond fe wnes i ddod o hyd i’r dewrder ac mae pawb rwyf wedi cyfarfod â nhw yn hyfryd. Roeddwn i eisiau eu helpu a gwneud gwahaniaeth. Rwy'n helpu gyda llawer o bethau gwahanol fel cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd, argraffu posteri, dylunio ‘floats’ carnifal, gweithio gydag ysgolion lleol a gofalu am dudalen cyfryngau cymdeithasol y carnifal.

Ers bod ar y pwyllgor, fy eiliad fwyaf balch fu gweld pa mor boblogaidd y mae'r carnifal wedi tyfu - y llynedd roedd dros 35 o ‘floats’ a dyma'r mwyaf y bu ers iddo ddechrau. Wrth edrych y tu ôl i mi, doeddwn i methu gweld pen pellaf y carnifal, Roedd cannoedd o bobl ac roedd yn rhyfeddol gweld bod cymaint o bobl yn Hayle.

Oherwydd y clo nid yw'r carnifal wedi gallu digwydd eleni, ond rydym eisoes yn gweithio ar gynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf i'w wneud hyd yn oed yn fwy ac yn well.

Dwi wrth fy modd yn gwneud pethau ac yn trefnu, nid yw'n ymrwymiad mawr. Rwyf wrth fy modd yn ei wneud, mae'n ffordd dda o gwrdd â phobl newydd a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.