Diddanu ac addysgu fy nghymuned drwy gyflwyno ar radio cymunedol

Bene-Briggs
Glasgow, Yr Alban
Rwyf wrth fy modd gyda radio cymunedol ac wedi bod yn helpu ar Radio Jambo ers mis Mawrth. Rwy'n cyflwyno African Spotlight yn rheolaidd, lle rwy'n sgwrsio â gwrandawyr ac yn mwynhau adrodd straeon.

Ymunais â Radio Jambo oherwydd fy mod yn angerddol iawn am fy nghymuned a'm gwreiddiau. Rwyf hefyd yn angerddol iawn am yr Alban. Mae cael y cyfle i ddathlu'r Alban ac Affrica gyda'm cymuned yn arbennig iawn.
Bob wythnos rydym yn tynnu sylw at bobl ifanc a hen yn gwneud pethau hollol anhygoel yn eu cymunedau. Yr hyn sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin yw eu bod yn gweld angen, wedi penderfynu gwneud rhywbeth yn ei gylch a gwneud hynny!
Fy munudau mwyaf balch hyd yma fu pob segment a wnaf ar hanes Affricanaidd a rhannu hynny gyda'r gwrandawyr. Mae gwneud gwaith ymchwil a siarad am eneidiau anhygoel y gorffennol a'r presennol sy'n ffurfio gwead ein hanes cyfoethog wedi bod yn werth chweil.
Rwyf wrth fy modd yn defnyddio fy llais i ddiddanu, addysgu, a diweddaru’r gwrandawyr. Rwy'n cael dangos fy mhersonoliaeth, gan ei defnyddio i wneud i bobl wenu ar adeg pan fo cymaint yn teimlo'n unig ac yn poeni am y dyfodol