Straeon
Mae pobl ledled y DU eisoes yn elwa o helpu yn eu cymuned. Darllenwch am rai arwyr bob dydd i weld sut y gallwch wneud gwahaniaeth.
Don't see something here you're interested in? Find out more about other available volunteering opportunities.
Find a volunteering opportunity
Defnyddio fy nghariad at gelfyddyd i wneud fy nghymuned yn fwy disglair
Rwyf wedi bod yn helpu yn The Addy yn Wakefield ers 2018. Mae'r prosiect antur sy'n seiliedig ar iard chwarae yn dod â'r gymuned leol at ei gilydd. Ers i mi ddechrau cymryd rhan, maen nhw wedi cynnig rôl rhan amser i mi redeg grŵp celfyddydau wythnosol rhwng cenedlaethau lle mae aelodau hŷn o'r gymuned yn cael archwilio celf, ynghyd â phlant o dan bump oed a'u rhieni.

Hyrwyddo lles cadarnhaol yn fy nghlwb pêl-droed lleol
Pêl-droed fu fy mywyd erioed. Pan ddywedwyd wrthyf yn 24 oed na allwn chwarae'r gêm mwyach, penderfynais fy mod yn dal i fod eisiau bod yn rhan o'r clwb, felly euthum ymlaen i fod yn hyfforddwr.

Darparu bwyd a hanfodion i helpu fy nghymdogion
Rwyf wedi bod yn helpu yn fy nghymuned yn Bury ers blynyddoedd lawer yn gwneud llawer o bethau gwahanol, popeth o Gyngor ar Bopeth i helpu pobl sy'n byw'n agos gyda'u siopa bwyd. Yn gynharach eleni, pan welais sut yr oedd pobl yn cael trafferth oherwydd coronafeirws, sefydlais Fusion Food drwy Ganolfan Menywod Bury Asiaidd.
Bob dydd treuliaf ychydig funudau'n helpu i glirio sbwriel yn fy nghymuned
Mae gen i moto sydd wedi llywio fy mywyd dros y blynyddoedd diwethaf - "Alla i ddim newid y byd ond gallaf newid y darn bach o'm cwmpas" - ac mae casglu sbwriel a glanhau traethau yn fy helpu i fyw drwy hyn. Rwy'n codi sbwriel yn Swydd Efrog - yn y bryniau, ar y traeth, ar y camlesi ac ar fy ffordd i weithio.

Cerddodd Bob 15km i helpu codi arian am barseli bwyd
Dechreuais helpu Torbay Food Alliance, a sefydlwyd yn rhannol gan Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol Torbay, yn ystod argyfwng COVID-19 yn yr haf.

Rwy'n cael cymaint allan o helpu fy nghymuned, rydym i gyd yn helpu ein gilydd
Rwyf wedi bod yn helpu gyda Flourish, sy'n cael ei redeg gan Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, ers blwyddyn. Rwy'n gallu rhoi cymaint o amser ag y dymunaf, ond rwyf wrth fy modd, felly rwyf fel arfer yno bedwar diwrnod yr wythnos. Rwy'n helpu gyda'r Pantri – mae'n wasanaeth galw mewn sydd ar gael i bawb yn ein cymuned er mwyn iddyn nhw allu cael gafael ar fwyd.

Diddanu ac addysgu fy nghymuned drwy gyflwyno ar radio cymunedol
Rwyf wrth fy modd gyda radio cymunedol ac wedi bod yn helpu ar Radio Jambo ers mis Mawrth. Rwy'n cyflwyno African Spotlight yn rheolaidd, lle rwy'n sgwrsio â gwrandawyr ac yn mwynhau adrodd straeon.

Trefnu gweithgareddau a fideos ar-lein i helpu plant a phobl ifanc awtistig
Rwyf wedi bod yn helpu gyda Chymdeithas Awtistiaeth De Ayrshire ers pedair blynedd, ers i mi fod yn 15 oed. Rwy'n astudio Nyrsio Deintyddol yn y coleg ac yn helpu plant a phobl ifanc awtistig yn fy amser rhydd.

Sgwrsio gyda phobl dros y ffôn am yr hen ddyddiau
Rwy'n helpu yn y Ganolfan Omagh B-friend. I ddechrau, roeddwn yn gyfaill cartref, ond pan ddaeth coronafeirws, dechreauis fod yn gyfaill dros y ffôn, gan alw tua 10-15 o bobl bob wythnos. Mae'n berffaith i mi gan fy mod wrth fy modd yn sgwrsio!

Mae Kevin, 16 oed, wedi rhoi mwy na 1,000 o oriau i helpu ei gymuned eleni!
Rwy'n 16 oed ac rwyf wedi bod yn helpu CATCH, canolfan ieuenctid yn Leeds, ers i mi fod yn 11 oed. Rwyf yn y coleg ar hyn o bryd yn astudio Hyfforddiant Chwaraeon, ond yn gwirfoddoli pryd bynnag y bydd gennyf amser hamdden. Cofnodais dros 1,000 o oriau rhwng mis Ebrill a mis Medi, yn ystod y pandemig!

Dechreuais helpu gyda boreau coffi rhithiol yn ystod y cyfnod clo
Rwy'n rhan o gynllun cyfeillio Berkshire Vision, sy'n golygu fy mod yn gwneud popeth o redeg bore coffi ar-lein wythnosol, i sgwrsio â gwraig hyfryd ar y ffôn unwaith yr wythnos.

Lleihau gwastraff bwyd yn fy oergell gymunedol leol
Rwyf wedi bod yn helpu yn y prosiect Oergell Gymunedol Canolbarth Surrey ers ychydig o dan dair blynedd. Crëwyd y prosiect yn 2017 i helpu cymunedau i ddefnyddio bwyd a fyddai wedi mynd yn wastraff. Pan ymunais, y gwaith cyntaf oedd casglu bwyd dros ben o'r archfarchnadoedd lleol, ond yr rwyf yn awr yn rheolwr mewn prosiect Oergelloedd Cymunedol Canolbarth Surrey sydd newydd agor ar fy ystâd.

Mae Nicola yn bod yn gyfaill efo phobl hyn drwy arddio
Deuthum yn gyfaill gardd a Betty oedd y person hŷn cyntaf i mi bartneru gyda hi. Roedd hi braidd yn swil am fy ngadael i mewn i’r tŷ ar y dechrau, ond ar ôl tua chwe mis o ‘helo’ o’r stepen drws a gwirio ei bod yn iawn, fe'm gwahoddodd i mewn am sgwrs, a newidiodd hynny bopeth!

Penderfynais helpu gyda'n carnifal gan fy mod am helpu i wneud gwahaniaeth
Rwyf wedi bod yn helpu i drefnu Carnifal Hayle ers sawl blwyddyn bellach. Rydym yn cynnal y carnifal ddwywaith y flwyddyn, yn yr haf ac yn y gaeaf, ac mae'r gymuned leol yn cymryd rhan mewn parêd llusernau hudolus.
Edrych am fwy o gyfleoedd i helpu allan?
Hoffech chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Edrychwch ar ein awgrymaidau a'n cyngor ar sut i ddechrau arni.