Ein partneriaid
Mae Methu Allan i Helpu Allan yn bartneriaeth rhwng y Loteri Genedlaethol, ITV a STV i'ch helpu i chwarae rhan yn eich cymuned. Gall gweithredoedd bach o garedigrwydd wneud gwahaniaeth mawr.
Y Loteri Genedlaethol
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, codir tua £30 miliwn bob wythnos i achosion da ac mae dros hanner miliwn o brosiectau bellach wedi'u hariannu. Ar gyfer pob gêm a chwaraeir, mae cyfran yn mynd at ariannu prosiectau mawr a bach ledled y wlad, drwy 12 sefydliad arbenigol sy'n dosbarthu'r arian hwn i brosiectau sy'n cefnogi cymunedau, y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw'r ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU. Gydag arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi dosbarthu dros £400 miliwn i gymunedau ledled y DU ers mis Mawrth eleni.
Diolch i'n harian grant, gall grwpiau ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gadw eu cymunedau mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod anodd hwn. Cawn ein hysbrydoli gan y cryfder rydym yn ei weld yn ein cymunedau.